10 Chwefror 2012
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol i gyfarfod gweithwyr sydd ar y gofrestr yng Nghymru
Bydd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yng Nghei Deganwy ger Llandudno ar 21 Mawrth ar gyfer ei bedwerydd digwyddiad yn 2012 ar gyfer gweithwyr sydd ar y gofrestr.
Gofynnir i weithwyr deintyddol proffesiynol o’r dref a’i chyffiniau ddod draw i Westy’r Cei, Cei Deganwy, Conwy, LL31 9DJ i glywed sut mae gwaith y Cyngor yn effeithio arnynt. Byddant hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan lawn mewn un o ddau weithdy; un ar y cyfrifoldebau o fod yn weithiwr deintyddol proffesiynol ac un ar egluro ein gweithdrefnau cyfredol ar addasrwydd i ymarfer a’r newidiadau arfaethedig iddynt.
Digwyddiad am ddim yw hwn sy’n werth dwyawr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus gwiriadwy.
Dywedodd Mike Brown, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, bod y digwyddiadau hyn yn gyfle da i gael adborth wyneb yn wyneb:
“Rydym eisoes wedi cynnal digwyddiadau ym Mryste a Derry/Londonderry eleni a byddwn yn Glasgow ar 28 Chwefror. Mae siarad yn uniongyrchol â gweithwyr sydd ar y gofrestr yn ffordd werthfawr i staff y Cyngor ddeall pryderon pobl. Wrth i ni barhau i adolygu Datblygiad Proffesiynol Parhaus a Safonau, rydym yn awyddus i wybod beth yn union mae gweithwyr deintyddol proffesiynol yn ei feddwl.”
Gall unrhyw weithwyr deintyddol proffesiynol sydd am fynd i’r digwyddiad archebu ar-lein yma. Mae llefydd yn brin, felly archebwch yn gynnar da chi.
Diwedd